Priodas Kelly a John

Bosib fy mod mymryn yn ‘bias’ yn dweud fod lleoliad priodas Kelly a John yn anhygoel – yn rhannol oherwydd mai dyma le bues i briodi blwyddyn diwethaf; ond mae’n wir – Eglyws hynafol, prydferth a golau St. Beuno yn Clynnog Fawr, ac wedyn tirlun prydferth Nant Gwrtheyrn yn cyfuno ar gyfer priodas hir gofiadwy!

Roedd ôlion manylder Kelly i’w weld ymhobman, tra cariad amlwg rhwng Kelly a John yn glir i phawb. Cwpwl cariadus, egniol a chyfeillgar – pleser llwyr eu ffotograffu, ynghyd a dysgu am traddodiadau priodasau yr Ukraine o deulu John.