Priodas Elin a William

Am briodas, am leoliad, am gariad ag brwdfrydedd, priodas Elin a William yn fythgofiadwy! Roedd priodas y cwpwl hapus yn gymysgedd o’r draddodiadol, ac ysbryd gwyl dathlu. Bwyd i’r enaid yn Eglwys St. Michael’s Aberystwyth, lle bu’r ddau yn cyfnewid addunedau briodas, o fewn tafliad carreg o’r prom a golygfeydd gwych lan y môr yn Aber.

Elin a William yn bâr gwych – agwedd bendant William yn taro cydbwysedd ac agwedd hapus, egniol llawn brwdfrydedd gan Elin Hywel. Yn ol at fferm rhieni Elin, roedd glamp o babell wedi ei harddurno’n brydferth, mewn cae a olygfeydd gogoneddus dros bae Ceredigion, wedi ei baratoi ermwyn cyfarch gwesteuon barti dathlu’r briodas. Mewn awyrgylch gwyl ag miwsig byw a performwyr acrobatig, bu’r teulu a ffrindia yn dathlu’r undeb, hyd nes i’r haul machlyd a’r bar darfod diod!

Yn wir, noson llawn hwyl a chariad oedd priodas y ddau annwyl, Elin a William, ac yn fraint llwyr i ddogfennu ac ymuno yn yr achlysur.